Mynd ar eich pen eich hun

FSB Policy Report 15 Oct 2017

deall hunangyflogaeth yng nhhymru

Ar adeg pan fo’r economi a busnes yng Nghymru yn mynd trwy newid a chynnwrf, mae’r sector hunangyflogedig yn dal i ddarparu swyddi a buddsoddiad mewn economïau lleol trwy hyd a lled Cymru. Er hynny, mae’n sector y deëllir fawr ddim amdano, ac ychydig ymchwil a wnaed iddo. Pa ddiwydiannau y mae’r hunangyflogedig yn gweithio ynddyn nhw? Ble maen nhw yng Nghymru? Faint o oriau y maen nhw’n ei weithio bob wythnos?

Mae’r adroddiad hwn, a gomisiynwyd gan FSB Cymru ac a gynhyrchwyd gan yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang, yn mynd ati i daflu goleuni ar y fyddin o bobl hunangyflogedig yng Nghymru, gan ddangos sut y maen nhw’n rhedeg eu busnes, y cyfraniad a wnânt i’w heconomi leol, a sut y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi wrth fynd yn eu blaen.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn