FSB Cymru | Ariannu Ffyniant

Creu system drethi newydd yng nghymru

Ym mis Ebrill 2019, caiff treth incwm ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ffurfio rhan o’r broses o ddatganoli trethi a fydd yn gweld y trethi Cymreig cyntaf i gael eu codi a’u casglu ers amser Llywelyn Fawr yn y 13eg Ganrif. Ynghyd â threthi busnes allweddol fel ardrethi annomestig, treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, bydd y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n dewis defnyddio’r pwerau newydd yma’n cael effaith sylweddol ar BBaCh ledled Cymru.

Nid cyfraddau a bandiau’r trethi hyn yw’r unig ffactorau pwysig yn hyn o beth. Bydd sut y cânt eu gweinyddu’n bwysig hefyd. Canfu gwaith ymchwil blaenorol y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) ar gyfer yr adroddiad Taxing Times fod y busnes cyfartalog yn y DU yn colli tair wythnos y flwyddyn i weinyddu trethi, ac yn gwario tua £5,000 y flwyddyn ar weinyddu trethi. Mae 55 y cant o fusnesau’n teimlo eu bod yn anwybodus ynghylch y mathau o ryddhad trethi a allai fod ar gael iddynt ac y gallai eu busnesau elwa arnynt.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn