Canol coll Cymru

FSB Policy Report 31 Oct 2017

Ers dechrau datganoli ym 1999, gweddnewidiwyd maes datblygu economaidd Cymru. Cafwyd nifer o strategaethau a thargedau; mae sefydliadau fel Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), Busnes Rhyngwladol Cymru (IBW) a Chymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B) wedi diflannu; a daeth materion allweddol fel sectorau i’r amlwg. Yn ddiweddarach, mae penderfyniad y pleidleiswyr i ddechrau proses y DU o adael yr Undeb Ewropeaidd yn nodi dechrau ailddiffiniad mewn termau economaidd. Dylai’r broses hon annog pawb ym maes datblygu’r economi i ddadansoddi’n feirniadol yr hyn a weithiodd (neu beidio) yn y gorffennol a holi a oes angen inni ymddwyn yn wahanol yn y dyfodol.

Yn y cyd-destun hwn y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau yn datblygu dull newydd o ddatblygu’r economi yng Nghymru, y bu mawr aros amdano. O’n rhan ni, mae FSB Cymru wedi llunio nifer o adroddiadau am faterion allweddol fel hunangyflogaeth, economïau gwledig a’r hyn sydd ei angen ar gwmnïau bach gan Brexit, a gobeithiwn y bydd y rhain yn helpu i greu sail dystiolaeth eang ar gyfer trafodaeth.

Mae’r papur hwn yn gyfraniad pellach at y sail dystiolaeth hon, gan ganolbwyntio ar gwmnïau canolig eu maint yng Nghymru a’r ffyrdd y gallwn helpu i feithrin eu nifer. Wrth gyflwyno’r papur hwn, gobeithiwn ychwanegu gwerth at y ddadl ynghylch datblygu’r economi yng Nghymru ac amlygu’n glir y dewisiadau sy’n wynebu Llywodraeth Cymru.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn