Cymru Fedrus

Mae economi Cymru’n wynebu nifer o heriau yn y dyfodol. Dwy o’r rhai amlycaf yw Brexit a natur aflonyddgar yr economi ddigidol. Mae i’r naill a’r llall y potensial i newid yn sylfaenol y ffordd y mae vbusnesau’n gweithredu a gallai’r naill a’r llall gael effaith ar natur cyflogaeth ac anghenion sgiliau o fewn busnesau ar draws economi Cymru.

O ran Brexit, mae ein hymchwil blaenorol wedi dangos, o wynebu anawsterau cynyddol wrth ddenu a chadw llafur medrus, y bydd cwmnïau naill ai’n llyncu costau recriwtio o rywle arall i lenwi’u hanghenion sgiliau neu byddant yn cynyddu lefel yr hyfforddiant a roddant i’w gweithlu presennol. Bydd y ddau ganlyniad hwn yn codi cwestiynau o ran natur, cost a chynnwys y ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru a’r llwybrau presennol at gyflogaeth.

Yr un modd, mae llawer wedi’i ddweud am yr effaith y gallai arloesi digidol ei gael ar gwmnïau. Er bod dadlau mawr ynghylch yr amcanestyniadau o’r effaith, roedd arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu bod cymaint â thraean o’r swyddi yng Nghymru mewn sefyllfa fregus oherwydd camau ymlaen mewn awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial. Er na allwn ragweld y dyfodol, gallwn ddweud gyda pheth sicrwydd y bydd angen i fusnesau allu gwrthsefyll newidiadau o’r fath.

Yng nghyd-destun yr heriau allweddol hyn, mae Llywodraeth Cymru’n ymgymryd â nifer o ddiwygiadau i gyflogaeth a sgiliau. Am y rheswm hwnnw y bu i FSB Cymru gomisiynu arolwg o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau) i ddeall eu gofynion cyflogaeth a sgiliau yn well.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn