Ar Agor Am Fusnes

Ailbwrpasu Mannau Chyoeddus Ar Gyfer Adferiad Economaidd

Mae ein trefi bob amser wedi bod yn rhan hollbwysig o fywyd pob dydd yng Nghymru, gan chwarae rôl arwyddocaol, ond rôl nas gwerthfawrogir ddigon yn aml, wrth yrru datblygu economaidd a darparu’r cyd-destun i fusnesau dyfu a ffynnu. Yn ystod argyfwng Covid-19, gyda mesurau cyfyngiadau symud yn lleihau ein cysylltiad corfforol ag ardal ehangach, mae ein cymunedau lleol wedi dod yn gymorth anhepgor i’n lles cymdeithasol ac economaidd ac wrth helpu unigolion a busnesau drwy’r argyfwng.

Trefi yw ble’r ydym yn cael at wasanaethau cyhoeddus, o feddygfeydd i lyfrgelloedd neu fusnesau’r economi sylfaenol megis gofal plant. Mae busnesau’n rhan allweddol o’r hyn sy’n gyrru tref yn yr amseroedd da a’r gwael.

Mae llawer o fusnesau canol trefi megis cigyddion, pobyddion a siopau groser wedi addasu eu busnesau i helpu pobl fregus neu bobl a warchodir i gael eu hanfodion wedi’u danfon at eu drws. Maen nhw wedi aros ar agor, mewn amgylchiadau anodd, ac wedi darparu rhywfaint o gryfder cymunedol.

Wrth inni ddod allan o gyfyngiadau symud ac wrth i’r cyfyngiadau eraill lacio, bydd angen i’n trefi chwarae rôl wahanol i’r un y maen nhw wedi’i chwarae yn y gorffennol. O’r blaen, roedd cynyddu nifer y siopwyr yn arwydd o stryd fawr iach, yn awr bydd angen i drefi fod yn gallach a mwy cydlynol i gefnogi eu cymuned ehangach.

Cliciwch isod i ddarllen yr adroddiad llawn