Maniffesto Gwledig
Lanswyd ein Maniffesto Wledig gan Ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones at stondin y FfBB yn y Sioe.
Mae'r maniffesto yn tanlinellu pryderon ein aelodau wledig a beth mae llywodraeth yn gallu wneud i hybu ein busnesau wledig.
Cyngor Busnes Yn Rhad ac am Ddim
Yn dilyn digwyddiadau Dod Drwyddi, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal wythnos meddygfa cyngor busnes a fydd yn darparu cyfle i fusnesau yng Nghymru i fwcio sesiwn gyfrinachol 1 i 1 gydag aelod o dîm y ganolfan ranbarthol/reolwyr perthynas yn ystod yr wythnos yn un o'r canolfannau rhanbarthol Flexible Support 4 Business
Lleoliadau ar gyfer yr Wythnos Gynghori
Yng Ngogledd Cymru, cynhelir y sesiynau yn y mannau canlynol:
Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX,
Canolfan Arloesedd a Thechnoleg, Parc Menai, LL57 4FG
Canolfan Fenter y Bers, Parc Menter y Bers, LL14 4EG
Yng Nghanolbarth Cymru, cynhelir y sesiynau yn:
Y Lanfa, Aberystwyth, SY23 2AS
T? Ladywell, Y Drenewydd, SY16 1JB
Theatr Brycheiniog, Glanfa'r Gamlas, Aberhonddu, LD3 7EW
Yn Ne Orllewin Cymru, cynhelir y sesiynau yn:
T? Britannic, Llandarsi, SA10 6JQ
Y Ganolfan Wledig, Nantyci, Caerfyrddin SA33 5DR
Canolfan E-Fasnach, East Lanion, Doc Penfro, SA72 6UJ
Yn Ne Ddwyrain Cymru, cyn helir y sesiynau yn:
Y Ganolfan Deledu, Croes Cwrlwys, Caerdydd, CF5 6XJ
Technium Springboard, Parc Llantarnam, Cwmbrân, NP44 3AE
Canolfan Orbit, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1DL
Mae'n bosibl y bydd nifer y lleoedd yn ystod yr wythnos yn gyfyngedig. Gellir gwneud apwyntiadau trwy ymweld YMA neu trwy alw Canolfan Gyswllt Cymorth Hyblyg ar gyfer Busnes Llywodraeth y Cynulliad ar 03000 6 03000.
Help i fusnesau gael at gyllid banc.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllaw i fusnesau bach yng Nghymru ar gyfer cael at gyllid banc ar gyfer busnesau bach yng Nghymru.
Mae'r cyfarwyddyd yn cynnwys
* gwneud cais am fenthyciad
* am ba feini prawf y mae'r banciau edrych amdanynt
* cymorth ariannol oddi wrth lywodraeth y DU
* sut y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru helpu
* cysylltiadau defnyddiol yn eich ardal
Ymwelwch â'r YMA am wybodaeth bellach
GRWPIAU FFOCWS
Diolch i'r holl fusnesau a fynychodd ein grwpiau Ffocws yn Aberystwyth a Llanrwst. Datblygir eich mewnbwn yn bolisïau er mwyn helpu busnesau o ganlyniad.
MynnwchEichDweud
Yn rhifyn diweddaraf Regional Voice, roedd cyfle i fynegi eich barn am yr hyn y dylai Cynulliad Cymru fod yn ei flaenoriaethu.
Mae'r arolwg byr ar gael ar-lein nawr
Arolwg Cynulliad Cymru
Diolch i'r holl rai sydd wedi cwblhau hwn eisoes.
BUSNESAU BACH A'R GYFUNDREFN GYNLLUNIO YNG NGHYMRU
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi comisiynu Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd i gynnal ymchwil i'r berthynas rhwng BBaCh a'r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru. Mae'r rhan gyntaf hwn o'r ymchwil yn darparu sail dystiolaeth, sy'n ychwanegu tystiolaeth sy'n bodoli eisoes yngl?n â phrofiadau busnesau bach yng Nghymru ei bod yn ymddangos fod y gyfundrefn gynllunio ei hun yn llesteirio twf busnes mewn amryfal ffyrdd ac ar lawer o lefelau gwahanol.
Er mwyn lawrlwytho'r ddogfen, cliciwch yma.
Mae copi o'r ddogfen yn Gymraeg ar gael yma